Pysgota
Mae Eryri yn nefoedd i bysgotwyr gyda dros 100 o lynnoedd, pob un a’i gymeriad a’i leoliad unigryw ei hun. Mae afonydd yr ardal yn enwog am eu brithyll gwyllt, eogiaid a sewin, ac os mai pysgota môr sy’n mynd â’ch bryd, yna mae digonedd o lefydd i wneud hynny ar hyd rhan fwyaf o’r arfordir eithriadol o hardd. Gellir hefyd trefnu i logi cwch i fynd i bysgota mewn llawer o’r pentrefi harbwr.
Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu yw’r lleoliad perffaith ar gyfer mwynhau trip pysgota i grwpiau yn Eryri, gyda llynnoedd Llyn Cwellyn, Llyn Nantlle a Llyn y Dywarchen o fewn tafliad carreg i’r caban cysgu. Mae Afon Gwyrfai ac Afon Llyfni hefyd yn rhedeg yn agos ac mae Glan y Môr wobrwyedig Baner Las Dinas Dinlle hefyd yn agos iawn.
Mae’r dafarn leol yn y pentref yn gwerthu trwyddedau pysgota ar gyfer Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, a fydd yn eich galluogi i bysgota ar y llynnoedd a’r afonydd lleol.
