Llety

Caban Cysgu Cyfforddus i Grwpiau

Mae lle i 30 o bobl gysgu mewn 6 ystafell wely wedi ei rannu dros ddau adeilad yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu. Mae hyn yn golygu y gallwch rannu grwpiau fel sydd angen arnoch: benyw/gwryw, oed, ayb.

Dim ond eich grŵp chi fydd yn aros yn y caban cysgu yn ystod eich ymweliad, sy’n golygu bydd gennych ddefnydd llawn o’r holl gyfleusterau i chi eich hun.

Mae’r gwlâu i gyd yn wlâu bync gyda fframiau metel cryf, matresi cyfforddus a chlustogau.

  • Ystafell 1 – yn cysgu 12 mewn gwlâu bync
  • Ystafell 2 – yn cysgu 2 mewn gwlâu bync
  • Ystafell 3 – yn cysgu 4 mewn gwlâu bync
  • Ystafell 4 – yn cysgu 4 mewn gwlâu bync
  • Ystafell 5 – yn cysgu 4 mewn gwlâu bync
  • Ystafell 6 – yn cysgu 4 mewn gwlâu bync

Yr olygfa o'r ardd gefn tuat at Grib Nantlle

Taith Fideo

Cyfleusterau

Rhestr o’r cyfleusterau sydd ar gael yng nghaban cysgu Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu:

  • Pwynt gwefru ceir trydan 7kw, math 2, talu wrth fynd, (dewch a’ch gwifren eich hun efo chi)
  • Cyn ysgol a thŷ ysgolfeistr hanesyddol wedi’w ailwampio yn ddiweddar
  • Yn cysgu 30
  • 6 ystafell wely
  • Cegin sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch
  • Ystafell gymunedol fawr / ystafell fwyta
  • Taflunydd, sgrin fawr a sustem sain gyda gwifrau pwrpasol i gysylltu gliniadur / dyfais arall
  • 4 o gawodydd poeth, 5 toiled
  • Gwres nwy canolog
  • Ystafell sychu
  • Storfa ddiogel allanol
  • Gardd gyda digon o feinciau i eistedd a bwyta
  • Ystafelloedd sychu ar wahân ar gyfer dillad ac offer gwlyb
  • Maes parcio preifat oddiar-y-ffordd, sy’n rhâd ac am ddim
  • Cysylltiad bandeang ffeibr Wi-Fi yn rhad ac am ddim
  • Paneli solar a batri i leihau ôl troed carbon y ganolfan
  • Lein ddillad a phegiau i sychu dillad ac offer gwlyb
  • Adeilad hanesyddol (man geni a chartref yr enwog T.H. Parry-Williams, un o feirdd pwysicaf Cymru)
  • Ffenestri a drysau gwydr dwbl drwy’r adeilad cyfan
  • Mae’r hen ysgol yn cynnig mynediad i’r anabl, toiled anabl a dim grisiau o gwbl
  • Golygfeydd godidog o gefn gwlad a mynyddoedd Dyffryn Nantlle ac Eryri