Ynglŷn â’r Ardal
Mae Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu wedi ei lleoli ym mhentref Rhyd Ddu, ar yr A4085 rhwng Beddgelert a Chaernarfon. Mae’r pentref yn llythrennol ar droed yr Wyddfa o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
Ar gyrion Bro Lleu (Dyffryn Nantlle) – mae llwybr cerdded a beicio Lôn Eifion, glan y môr wobrwyedig Baner Las Dinas Dinlle, gwinllan Pant Du, gweithdai crefft Glynllifon a llawer iawn mwy (pob un werth ymweld â hwy!) – i gyd o fewn tafliad carreg.
Mae Rhyd Ddu yn edrych tros Llyn y Gadair ac yn agos iawn at Lyn y Dywarchen a Llyn Cwellyn, ac mae dau brif lwybr i fyny’r Wyddfa – Llwybr Rhyd Ddu a Llwybr Cwellyn – yn cychwyn yn agos iawn i’r Ganolfan. Mae nifer o lwybrau cerdded yn y coedwigoedd a’r cefn gwlad cyfagos hefyd o fewn cyrraedd agos i Ganolfan Awyr Agored Rhyd Ddu.
Lleolir y Ganolfan o fewn 200 llath i orsaf Rheilffordd Eryri. Rheilffordd Eryri yw’r rheilffordd dreftadaeth hiraf ym Mhrydain, sy’n rhedeg am 25 milltir o Gaernarfon, heibio troed yr Wyddfa a phentref bach tlws Beddgelert, yna trwy gefn gwlad trawiadol Bwlch Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog. Mae teithwyr yn cael eu cludo mewn cerbydau sydd ymhlith y mwyaf cyfforddus ar unrhyw reilffordd dreftadaeth ym Mhrydain, gan gynnwys moethusrwydd dosbarth cyntaf cerbydau Pullman lle mae bwyd wedi’i goginio ar y pryd yn cael ei weini wrth eich sedd.
Mae tafarn a chaffi o fewn 2 funud i’r Ganolfan, a’r ddau yn cynnig prydau amrywiol.
Rydym yn gweithio gyda arlwywyr lleol a gallwn drefnu pecyn arlwyo cyfan os yw hyn o ddiddordeb i chi – unrhywbeth o becynnau bwyd i brydau poeth blasus gyda’r nos ar ôl diwrnod ar y mynydd.











