Dyddiau Antur a Gweithgareddau

Dyddiau Antur a Gweithgareddau

Mae dewis eang iawn o weithgareddau i grwpiau a theuluoedd yn Eryri, o ddyddiau i ymlacio, dyddiau i fwynhau’r ardal, dyddiau llawn hwyl a dyddiau llawn antur i’r eithaf.

Zip World Velocity yw’r ‘zip line’ hiraf yn Ewrop a’r cyflymaf yn y byd i gyd! Mae’n rhedeg am filltir dros Chwarel y Penrhyn ym Methesda – chwarel fwyaf y byd ar un adeg. Zip World Titan yw’r unig ‘zip line’ 4 person yn Ewrop, gyda thri rhan – a phob un ohonynt yn gyflymach na’r diwethaf.

Yn ddwfn tu mewn i geudyllau llechi Llechwedd, mewn agoriad enfawr tanddaearol, mae profiad bownsio mwyaf unigryw y byd – Bounce Below. Mae tri trampolîn enfawr wedi cael eu gosod, un ar ben y llall, ac i gyd yn gysylltiedig gyda rhwydwaith o lithrennau ac ystolion, wedi eu goleuo gyda rhesi o oleuadau amryliw i greu profiad bythgofiadwy.

Mae datblygiad Surf Snowdonia yn Nyffryn Conwy yn ddatblygiad arloesol arall yn yr ardal. Yma, ar lagŵn dŵr ffres tua 6 cae pêl droed o faint, gallwch syrffio ar donnau am 150 medr . Mae Parc Antur Surf Snowdonia y cyntaf o’i fath yn y byd i gyd ac yn ddatblygiad arloesol arall yn Eryri.

Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd eu hunain werth ymweld â hwy, ac yn gartref i daith llechi tanddaearol enwog . Gallwn hefyd argymell taith ar Reilffordd Eryri a Rheilffordd Ffestiniog. Rheilffordd Ffestiniog yw rheilffordd gul hynaf y byd, a fydd yn eich cludo ar daith 13½ milltir o harbwr Porthmadog i dref chwareli llechi Blaenau Ffestiniog. Rheilffordd Eryri yw’r rheilffordd dreftadaeth hiraf ym Mhrydain sy’n rhedeg am 25 milltir o Gaernarfon, heibio troed yr Wyddfa a phentref bach tlws Beddgelert, yna trwy dirlun trawiadol Bwlch Aberglaslyn ac ymlaen i Borthmadog.

Mae yma hefyd sawl amgueddfa ac oriel ar garreg y drws megis yr Amgueddfa Awyr yn Ninas Dinlle a’r Amgueddfa Llechi Cenedlaethol yn Llanberis.

Diwrnodiau antur