Cerdded a Dringo
Boed eich diddordeb mewn cerdded bryniau, mynyddoedd neu lwybrau hamdden, mae Rhyd Ddu yn leoliad perffaith ar gyfer mwynhau popeth sydd gan Eryri i’w gynnig. Beth bynnag fo’ch maes o ddiddordeb, mae digonedd o lwybrau i blesio pob grŵp – o deuluoedd gyda phlant ifanc i ddringwyr profiadol a rhai sy’n edrych i gael eu cyffroi – ac i gyd o fewn cyrraedd hawdd i Ganolfan Awyr Agored Rhyd Ddu.
Mae pedwar prif lwybr cerdded yn cychwyn yn agos iawn i Ganolfan Awyr Agored Rhyd Ddu:
Llwybr Rhyd Ddu
Wedi ei raddio fel llwybr mynyddig anodd 8 milltir a hanner o hyd, y llwybr hwn i gopa’r Wyddfa yw’r tawelaf o’r chwe prif lwybr i’r copa, a’r un sydd â’r golygfeydd mynyddig mwyaf godidog, yn enwedig i gyfeiriad Moel Hebog a bryniau Nantlle. Mae’r caban cysgu ond 2 funud o gychwyn Llwybr Rhyd Ddu i fyny’r Wyddfa.
Lon Gwyrfai
Dyma lwybr hamdden aml-ddefnydd 4 milltir a hanner a grëwyd yn arbennig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr. Arweinia’r llwybr trwy amrywiaeth o dirweddau gan gynnig golygfeydd arbennig o Ddyffryn Gwyrfai a’r ardal o gwmpas gan gynnwys rhai anhygoel o’r Wyddfa. Mae’r caban cysgu ond 2 funud o gychwyn llwybr hamdden Lon Gwyrfai i Feddgelert.
Llwybr Cwellyn
Llwybr poblogaidd iawn i fyny’r Wyddfa, mae hon wedi ei graddio fel llwybr mynyddig anodd 8 milltir o hyd sy’n cymryd oddeutu 6 awr (yno ac yn ôl). Mae’r caban cysgu ond 10 munud o gychwyn Llwybr Cwellyn i fyny’r Wyddfa.
Crib Nantlle
Yn cychwyn o bentref Rhyd Ddu ac yn darfod ym mhentref Nebo, mae hwn yn lwybr cerdded mynydd anhygoel gyda llawer o amrywiaeth. Mae Crib Nantlle yn un o’r goreuon yn Eryri o ran golygfeydd. Mae’r caban cysgu ond 5 munud o gychwyn Llwybr Crib Nantlle – yn wir, dyma fydd yr olygfa o ardd y caban cysgu gyda’r nos wrth i chi ymlacio ar ein meinciau gyda gwydriad neu ddau llawn haeddiant ar ôl diwrnod pleserus o gerdded.
