Chwaraeon Dŵr

Chwaraeon Dŵr

Mae rhediadau cyflym y Ganolfan Dŵr Gwyn yn Y Bala yn llawn antur. Yn adnabyddus fel cartref i rafftio a chaiacio dŵr gwyn yn y Deyrnas Unedig, mae’n cynnig cyfleon chwaraeon dŵr i ddechreuwyr ac arbenigwyr drwy gydol y flwyddyn. Cynhelir cystadlaethau o’r safon uchaf un drwy’r byd yma hefyd.

Mae gan Eryri nifer o lynnoedd sy’n cynnig cyfleon diddiwedd i rai sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr o bob math, a gyda 200 milltir o arfordir, mae traethau Eryri yn llawn o brofiadau i bobl o bob oed a gallu. Mae’r gweithgareddau ar gael yn agos i Ganolfan Awyr Agored Rhyd Ddu yn cynnwys hwylio, canŵio, hwylfyrddio, caiacio a rafftio.

Ac ar ôl yr holl adrenalin, gallwch ymlacio ar draethau gwobrwyedig yr ardal yn mwynhau’r golygfeydd a hyd yn oed adeiladau castell tywod!

Caiacio môr