Golff
Mae’r ardal yn gartref i tua 20 o gyrsiau golff, yn cynnwys tri o’r goreuon yn y Deyrnas Unedig – Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech, y cwrs golff cyswllt yn Aberdyfi a chwrs golff eiconig Nefyn, sydd i’w ganfod ar glogwyni Pen Llŷn. Clwb Golff Caernarfon yw’r agosaf i gaban cysgu Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu; wedi ei leoli rhwng mynyddoedd Eryri ac Afon Menai, mae’n anodd meddwl am gwrs golff unman yn y byd sydd â gwell golygfa na honno a geir o’r ti cyntaf ar y cwrs 18 twll hwn.
Cyflawnodd James Braid beth o’i waith gorau yma yng ngogledd Cymru – fel y gwelwch chi pan ddilynwch chi’r Llwybr Golff James Braid newydd, sy’n cysylltu 10 o’i gyrsiau gyda’i gilydd.
Mae pob un o’r cyrsiau ar arfordir Gogledd Orllewin Cymru yn cynnig profiad golffio unigryw drwy gydol y flwyddyn. Fel golffiwr, bydd gennych ddigon o ddewis ar eich taith golffio i Eryri a’r cyfle i chwarae ar rai o’r cyrsiau gorau yng Nghymru.
