Beicio Mynydd a Beicio Lôn

Beicio Mynydd a Beicio Lôn

Coedwig Coed y Brenin ger Ganllwyd oedd y cyntaf i’w ddatblygu ar gyfer beicio mynydd ac hyd heddiw mae’n cael ei adnabod fel un o brif leoliadau’r maes. Gyda sawl llwybr ar gael i bawb o deuluoedd a dechreuwyr, i lwybrau caregog a thechnegol i arbenigwyr – mae nodweddion arbennig Coed y Brenin yn golygu iddo sefyll ar y brig fel lleoliad beicio mynydd drwy Gymru a’r Deyrnas Unedig gyfan.

Mae pedwar llwybr beicio mynydd gwych Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog yn boblogaidd ofnadwy, ac yn cynnig un o’r gwasanaethau ymgodi gorau yn y Deyrnas Unedig, os nad y byd. Dylai hwn yn sicr fod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud!

Ar garreg ein drws mae llwybrau beicio mynydd Coedwig Beddgelert a’r golygfeydd bendigedig dwyreiniol tuag at Yr Wyddfa. Mae dau lwybr cylchol, sef y llwybr melyn (9.5km o hyd) a’r llwybr gwyrdd (4km o hyd). Mae’r ddau werth eu gwneud!

Mae Etape Eryri bellach yn cael ei adnabod fel un o’r digwyddiadau beicio lon gorau un yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Etape yn dechrau ac yn gorffen yng Nghastell mawreddog ac eiconig Caernarfon, ac yn mynd a chi ar hyd rhai o’r ffyrdd mwyaf hardd sydd yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r digwyddiad yn un anhygoel o feicio, cerddoriaeth byw a gweithgareddau teulu.

Ac i beidio anghofio am Lwybr Rhif 8 o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol wrth gwrs – sy’n pasio drwy Ddyffryn Nantlle ar Lon Eifion. Mae’r llwybr golygfaol hwn o Gaernarfon i Fryncir, sy’n rhydd o draffig, yn rhedeg gyfochrog â Rheilffordd Eryri ac yn lwybr hynod o braf i’w gerdded neu i’w feicio ger Bae Caernarfon ac Eryri.

Llwybrau beicio mynydd