Gweithgareddau

Heb os nac oni bai, beth bynnag fo’ch diddordeb yn y maes gweithgareddau awyr agored, mae digon o ddewis at ddant pawb yn Eryri. Hyd yn oed petaech yn aros yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu am fis cyfan, ni fyddai digon o amser gennych i brofi popeth sydd ar gael. Yr unig ateb yw dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn!

Isod, cewch fanylion am ein gwasanaeth gweithgareddau awyr agored sydd ar gael i bawb sy’n dod i aros gyda ni.

Mae yma hefyd fanylion am rai o’r niferus atyniadau sydd ar gael o fewn cyrraedd hawdd i’r caban cysgu…

Gweithgareddau Awyr Agored dan arweiniad

Rydym yn cynnig mynediad at ystod eang o gyrsiau a gweithgareddau awyr agored dan arweiniad i bawb sy’n aros yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu. Darllen mwy…

=
=

Cerdded a Dringo

Boed eich diddordeb mewn cerdded bryniau, mynyddoedd neu lwybrau hamdden, mae Rhyd Ddu yn leoliad perffaith ar gyfer mwynhau popeth sydd gan Eryri i’w gynnig. Darllen mwy…

Beicio Mynydd a Beicio Lôn

Coedwig Coed y Brenin ger Ganllwyd oedd y cyntaf i’w ddatblygu ar gyfer beicio mynydd ac hyd heddiw mae’n cael ei adnabod fel un o brif leoliadau’r maes. Darllen mwy…

=
=

Pysgota

Mae Eryri yn nefoedd i bysgotwyr gyda dros 100 o lynnoedd, pob un a’i gymeriad a’i leoliad unigryw ei hun. Darllen mwy…

Dyddiau Antur a Gweithgareddau

Mae dewis eang iawn o weithgareddau i grwpiau a theuluoedd yn Eryri, o ddyddiau i ymlacio, dyddiau i fwynhau’r ardal, dyddiau llawn hwyl a dyddiau llawn antur i’r eithaf. Darllen mwy…

=
=

Chwaraeon Dŵr

Mae rhediadau cyflym y Ganolfan Dŵr Gwyn yn Y Bala yn llawn Antur. Darllen mwy…

Golff

Mae’r ardal yn gartref i tua 20 o gyrsiau golff, yn cynnwys tri o’r goreuon yn y Deyrnas Unedig – Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech, y cwrs golff cyswllt yn Aberdyfi a chwrs golff eiconig Nefyn, sydd i’w ganfod ar glogwyni Pen Llŷn. Darllen mwy…

=