Datganiad Mynediad
Mae Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu wedi ei rannu yn ddau adeilad ar yr un safle: Hen Dŷ’r Ysgol a’r Hen Ysgol.
Yr Hen Ysgol
Mae tri drws mynediad i’r ganolfan:
- drwy ddrws blaen yr adeilad (yn wynebu’r ffordd) dros un stepen;
- drwy ddrws ochr yr adeilad, i mewn i’r gegin, dros un stepen;
- drwy ddrws cefn yr adeilad (yn wynebu’r iard gefn), ble ceir mynediad i’r anabl.
Mae mynediad gyda chadair olwyn drwy’r drws cefn, i lawr y ramp yn yr ystafell wely fawr.
Ni does grisiau nag unrhyw steps mewnol yn yr adeilad.
Mae ffôn talu ar gael i ddefnydd gwesteion. 50c yw’r isafswm gost. Mae defnydd mewn argyfwng (i ffonio’r gwasanaethau brys) yn rhad ac am ddim.
Mae un ystafell wely sy’n cysgu 2 yn syth oddi-ar y brif ystafell gymunedol, ac ystafell wely fawr sy’n cysgu 12 yng nghefn yr adeilad.
Mae goleuo digonol drwy’r adeilad cyfan.
Mae’r panel ar gyfer y larwm tân wedi ei leoli gyferbyn a’r drws blaen yn y cyntedd, uwchben y ffôn talu.
Mae diffoddyddion tân a chanfodyddion tân wedi eu darparu drwy’r adeilad.
Mae cyswllt cyflym ffeibr Wi-Fi i’r rhyngrwyd ar gael drwy’r adeilad. Ceir y manylion ar sut i gysylltu â’r rhwydwaith yn y ganolfan.
Mae un toiled dynodedig ar gyfer defnydd anabl sy’n cynnwys handlen a ffrâm gymorth a larwm argyfwng.
Mae un toiled ychwanegol a dau wrinal.
Mae dwy gawod wedi eu rhannu gyda llenni ar gyfer preifatrwydd. Ni does ciwbicl na stepen ar drothwy’r cawodydd; er mwyn gwneud yr ystafell mor hygyrch â phosib mae wedi ei osod allan fel ystafell wlyb.
Mae’r gegin yn cynnwys popty trydan dwbl, meicrodon, tegell, The kitchen includes a large electric cooker, microwave, kettle, tostiwr, oergell, rhewgell, sosbenni ac offer coginio, plateau, powliau, a chyllyll a ffyrc.
Lleolir y bocs cymorth cyntaf yn y gegin.
Gwresogir yr adeilad gyda gwresogyddion nwy a gwresogyddion trydan. Cynhesir y dŵr gan nifer o fwyleri nwy unigol.
Hen Dŷ’r Ysgol
Ceir mynediad i’r tŷ drwy’r drws ar ochr yr adeilad dros ddwy stepen.
Mae un ystafell wely wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod sy’n cysgu 3.
Hefyd ar y llawr gwaelod mae 3 toiled, 2 giwbicl cawod, 3 sinc ymolchi ac ystafell gwneud paned.
Mae’r ystafell gwneud paned yn cynnwys tegell, llwyau te a mygiau.
Mae goleuo digonol drwy’r adeilad cyfan.
Mae tair ystafell wely, yn cysgu 4 yr un, ar y llawr cyntaf. Oherwydd natur hanesyddol yr adeilad mae’r grisiau yn rhai serth iawn.
Mae’r panel ar gyfer y larwm tân wedi ei leoli gyferbyn a’r drws mynediad.
Mae diffoddyddion tân a chanfodyddion tân wedi eu darparu drwy’r adeilad.
Mae cyswllt cyflym ffeibr Wi-Fi i’r rhyngrwyd ar gael drwy’r adeilad. Ceir y manylion ar sut i gysylltu â’r rhwydwaith yn yr adeilad.
Cynhesir yr adeilad gan fwyler nwy gwres canolog. Cynhesir y dŵr gan gymysgfa o fwyleri nwy a thrydan.
Y safle yn gyffredinol
Mae digon o le i barcio oddi ar y ffordd i westeion.
Darperir ardal storio beics yn ddiogel yn yr iard.
Goleuir yr iard / man parcio gyda golau allanol a reolir gan sensor. Mae golau allanol ychwanegol a reolir gan swîts hefyd ar gael.
Mae signal ffôn symudol yn wan. Mae rhai rhwydweithiau yn derbyn signal isel ac eraill yn derbyn dim signal o gwbl.
Mae’r safle bws agosaf tua 200 medr o’r ganolfan.
Mae gorsaf drenau Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru wedi ei leoli 50 medr o’r safle.
Gorsaf Bangor yw’r brif orsaf drenau agosaf a leolir 17 milltir i ffwrdd (LL57 1LZ).